Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Environment and Sustainability Committee
|
|
|
27 Chwefror 2015 |
Annwyl Gyfaill
Mae'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi dilyn y broses o greu a datblygu Cyfoeth Naturiol Cymru, o'r achos busnes hyd at greu a gweithredu'r corff, ac mae wedi cynnal amryw o ymchwiliadau i agweddau ar y broses hon.
Un o brif nodweddion craffu parhaus y Pwyllgor yw'r sesiwn flynyddol gyda phrif weithredwr a chadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru.
Eleni, mae'r Pwyllgor wedi penderfynu gofyn am sylwadau rhanddeiliaid a'r cyhoedd i helpu i lywio'r sesiwn graffu.
Mae gennym ddiddordeb mewn clywed am eich profiad o weithio gyda a/neu cael gafael ar wasanaethau Cyfoeth Naturiol Cymru a sut y mae'n cyflawni ei swyddogaethau statudol (gan gynnwys yr adnoddau sydd ar gael i gyflawni'r swyddogaethau hyn).
Lle bo'n bosibl, hoffem i chi roi enghreifftiau penodol sy'n cefnogi eich safbwynt.
Byddwn hefyd yn gwahodd detholiad o randdeiliaid i roi tystiolaeth i ni yn bersonol ar 22 Ebrill. Byddwn yn craffu ar Cyfoeth Naturiol Cymru ar 6 Mai.
Ochr yn ochr â'r ymgynghoriad hwn, rydym yn eich gwahodd i gyflwyno sylwadau drwy ddefnyddio'r hashnod #CraffuarCNC. Byddwn yn gofyn cyfres o gwestiynau ar ddechrau pob wythnos yn ystod y cyfnod ymgynghori i annog trafodaeth, a bydd y Pwyllgor yn trafod crynodeb o'r sylwadau Twitter cyn y sesiwn graffu terfynol.
Ar ddiwedd y broses bydd y Pwyllgor yn mynegi ei farn drwy gyhoeddi llythyr neu adroddiad byr. Bydd pawb sy'n cyflwyno tystiolaeth yn derbyn copi.
Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad
Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.
Yn gyffredinol, gofynnwn i dystiolaeth gael ei chyflwyno yn ysgrifenedig oherwydd ei bod yn arferol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor ar ein gwefan, er mwyn iddi ddod yn rhan o'r cofnod cyhoeddus. Rhowch wybod inni os oes gennych unrhyw wrthwynebiad inni gyhoeddi eich tystiolaeth. Gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth ar ffurf sain neu fideo. Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, pan fo’n berthnasol, yn unol â’u polisïau ynghylch gwybodaeth i'r cyhoedd.
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i SeneddAmgylch@cynulliad.cymru. Fel arall, gallwch ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 10 Ebrill 2015. Yn ddelfrydol, ni ddylai fod yn hwy na phedair tudalen A4, a dylid rhifo'r paragraffau a chyflwyno'r dystiolaeth mewn fformat Word. Efallai na fydd yn bosib ystyried ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Datgelu gwybodaeth
Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliad.cymru/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Yn gywir
Alun Ffred Jones AC
Cadeirydd